Gwawr o Ferthyr Tudful ydw i! 'Wy'n berson egniol a chyfeillgar sy'n mwynhau chwerthin a chymdeithasu! Mae gweithio fel rhan o dim bywiog UNED5 yn her rwy'n edrych ymlaen ati, gobeithio wnewch chi fwynhau gwylio!
Heia! Gwawr ydw i! 'Wy'n 21 oed ac yn dod o Fynwent y Crynwyr ger Merthyr Tudful. Cyn dechre'r swydd gydag UNED5 ro'n i'n fyfyrwraig dlawd yn Aberystwyth yn astudio Cymraeg a Drama.
'Wy'n edrych 'mlaen at fyw yng Nghaernarfon ac yn gobeithio bydd y bywyd cymdeithasol yma'r un mor 'fywiog' ag Aber!
'Wy'n hoff iawn o gymdeithasu, gigs a theatr! Os y'ch chi'n hoffi carioci mae'n siwr y byddai ddim yn rhy bell i ffwrdd!
Fel arfer 'wy'n gwrando ar gerddoriaeth eclectic iawn o sioeau cerdd i pop i roc!
Yn fy amser rhydd 'wy hefyd yn mwynhau 'sgwennu creadigol, roadtrips, darllen ('wy ddim yn geek, wir!) a gwylio'r teledu.
Comediau yw fy hoff raglenni fel arfer, mae 'The Office', 'American Dad', 'Gavin and Stacey' a 'Kath & Kim' yn ffefrynnau.
Cyn bo hir byddwch chi'n gweld fi'n gyrru o gwmpas Caernarfon mewn ka bach arian, triwch rhoi digon o le i fi - mae popeth mae pobol yn dweud am fenywod yn gyrru yn hollol wir!
'Wy'n edrych ymlaen at yr her o gyflwyno UNED5 ac yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r rhaglen gymaint a mae'r criw'n mwynhau gweithio arni!
Shw’mae?! Fi yma eto!
Wel, mae’n aeaf nawr nagyw hi?! Mae ‘di oeri lot a ma’r glaw ‘di dechre, ych!!! Ond nes i drio dianc fy anhapusrwydd (a’r tywydd)trwy dreulio’r noson mewn sdafell chwyslyd yn un o gigs Bang Bangor nos Iau!! Ges i noson ffab a roedd Y Niwl yn grêt! Fydda i’n edrych ymlaen at eu gweld nhw eto – gobeithio bydda nhw’n chware yn ardal Caernarfon cyn hir!
Ges i Chinese neis yn Llanberis nos Sadwrn a gwylio’r X Factor – ro’n i’n dechre poeni pan oedd Lloyd druan yn y gwaelod, ond yn falch bod y cyhoedd wedi’i achub e (dim ond jesd)! Ona ma angen mwy o gefnogaeth arno fe!!! Sai’n credu bydd e’n ennill achos bod e mor ifanc a ma’ rhai o’r bobl yn y gystadleuaeth lot hyn na fe ond mae Lloyd dal i fod yn ffefryn i fi!!! Pob lwc boi!
Nes i drio gyflwyno Elliw a Gwenno i ‘Kath and Kim’ nos Sul, ond sai’n credo bod nhw’n mynd i fod yn ffans – yn enwedig Gwenno, ond efallai allai berswadio Elliw i wylio ‘chydig bach mwy gyda fi rhyw noson w’thnos ‘ma!
Wy’n edrych ‘mla’n at fynd i aerobics heno a nofio nos ‘fory (rhaid dechre cael gwared o’r holl Galaxy Caramel ‘wy ‘di bod yn bwyta!) ond dwi’n mynd allan am bryd o fwyd i ddathlu penblwydd Elin (sy’n gweithio gyda ni) nos fory hefyd fydd yn lyfli!
Dyna ni am nawr, tan tro nesa’, cofiwch beidio yfed pop sy’n fflat!!! xx