Yo yo bawb, Tudur dwi. Licio golff a chwaraeon yn gyffredinol. Does gen i ddim profiad o gyflwyno ond rhaid dweud fy mod i yn edrych ymlaen ac yn BAROD am fy her newydd! Dwi'n berson hawddgar ac yn gêm i 'neud ‘wbath!
Fy mhrif niddordeb i ydi chwarae golff. A coeliwch chi fi mi a’i am gêm fach os ‘ga i ond hanner cyfle! Yn ogystal â hoffi golff mae gen i ddiddordeb eang mewn bob math o chwaraeon. Felly gwylio neu cymeryd rhan mewn chwaraeon y buaswn i yn ei wneud fel rheol ar b’nawn dydd Sul ond gan fy mod i am ymddangos ar UNED5 mae petha am newid yn 'fana dydyn!
Cyn ymuno â thim UNED5 mi o’n i yn ran o dim rhaglen Sgorio a Sgorio Cymru a cyn hynny mi o ni yn actio i Gwmni theatr mewn addyg ‘Cwmni’r Frân Wen’, yn mynd o gwmpas ysgolion Conwy, Môn a Gwynedd. Mae gen i wybodaeth gyffrediniol eitha da i ddweud gwir heb i mi frolio fy hun yn ormodol wrth reswm! Dwi’n edrych ymlaen am fy her newydd o weithio ar UNED5 a fel rheol dwi’n gêm am ‘wbath!
Amser am flog ‘ndi! Sori heb neud un ers ‘sdalwm!
Dwi wedi bod yn brysur ers ysgrifennu yr un diwethaf.
Dwi wedi bod yn sgil fyrddio ym mharc Glasfryn ger Pwllheli ('Sgilfyrddio') wedi bod yn holi pobl ar stryd ym Mangor am y Nadolig ('Ydi hi'n rhy fuan i osod addurniadau Dolig?') mantyhose ('Mantyhose') a’r merched ynghylch pel droed ('Barn y merched am bêldroed') wedi bod yn stiwdio recordio Ed Holden yn Llanfrothen a wedi bod fel gwestai ar raglen newydd gydag Alex Jones o’r enw Salon fydd ar S4C ddechrau’r flwyddyn.
Wythnos yma dwi wedi bod mewn siop ble mae’n nhw’n gwneud dillad i strictly come dancing.......da de!
Roedd y siop coeliwch neu beidio yn llawn dillad! Fe aeth Llinos a fi yna i weld rhai o’r gwisgoedd a trio ambell i ddilledyn, mi fydd yr eitem ar y rhaglen yn fuan!
Yn fy mlog diwethaf fe ddywedais na wnaiff neb guro 858 yn Un Cynnig i Gymro. Wyddo chi be, dwi dal yn meddwl ru fath! Cysylltwch a chystadlwch os da chi’n anghytuno!