Elliw merch ffarm a shopaholic o Gapel Garmon dwi! Dwi'n hogan sy'n hoffi digon o hwyl a chymdeithasu, dramatic ar brydiau! a rhyfedd fyddai rhai yn 'i ddweud...ond mewn ffordd dda gobeithio!! Dwi'n hapus iawn o gael y cyfle i weithio gyda criw UNED5 , yn edrych mlaen am y profiad a dod i 'nabod pawb!
Hia! Elliw Baines Roberts dwi neu Ell / Bainesy i'm ffrindiau! Dwi'n dod o Gapel Garmon ger Betws Y Coed. Ar fferm dwi'n byw ar hyn o bryd lle dwi wrth fy modd yn bod efo'r anifeiliaid a helpu ar y fferm ambell waith!! Ma geni fuwch o'r enw Jini a heffer o'r enw Popi! Yn 2008 cefais radd mewn Theatr a'r Cyfryngau ym Mangor.
Dwi newydd ddod yn ol adref i Gymru o Gaerwrangon (Worcester) ar ôl byw a gweithio yno am flwyddyn mewn Ysgol anghenion arbennig lle cefais brofiad gwych , ac yn sicr byddwn yn gwneud hyn eto yn y dyfodol. Yn fy amser sbâr dwi wrth fy mooodd yn SIOPA a dwi'n licio meddwl am fy hyn fel ryw' 'personal shopper'!! Dwi hefyd yn hoffi mynd am dro ,chwarae'r piano , dwi'n ysgrifennu dramau a gwahanol ddarnau creadigol pan dwi'n cael amser! Comediau yw rhan fwyaf o'r darnau dwi'n sgwennu , ond mae rhai darnau dyfnach ymysg fy nghasgliad bach!
Pan mae'n dod i gerddoriaeth , wel dwi wrth fy modd efo pob math o bethau - ychydig bach o roc , pop , 'dance' a.y.y.b!! Y CD sy'n cael ei chwarae amlaf yn fy nghar bach melyn ar hyn o bryd yw Lady GaGa ,ac heb anghofio'r clasuron cawslyd wrth gwrs!
Dwi'n falch iawn o gael y cyfle yma i weithio yn UNED5 ac yn edrych ymlaen at y profiad a dod i nabod pawb!
Hia! Pawb yn iawn gobeithio?! A bod y rhai ohonoch oedd ddigon ffodus i gael gwyliau hanner tymor wedi mwynhau!
Wel cafodd Gwenno a minnau ddigon o hwyl yn ffilmio eitem ar gyfer 5 munud i sbario sydd ar y wefan ddydd Iau! Ein sialens wythnos dwethaf oedd bobio afalau! Doeddan ni ddim wedi gwneud hyn o’r blaen! Ac ar ôl cyrraedd y stiwdio, fe ddaru ni sylweddoli ar ôl siarad efo’r criw ei fod yn anoddach na’r disgwyl! Oedd, roedd hyn yn wir! Ond rhaid dweud cafodd bawb sioc o weld ein bod wedi gallu cael mwy nag un! =0)
Gwenno oedd yn fuddugol y tro hwn gyda 4 afal a minnau wedi cael 3 , heb hyd yn oed gwlychu fy ngwallt....yn wahanol i Gwenno! Edrych ymlaen i weld be fydd sialens y ddwy ohonom yr wythnos yma! Cofiwch wylio ein clipiau ni ar y wefan!
Noson Tân Gwyllt Nos Iau, edrych ymlaen ! Mwynhewch lle bynnag ewch chi !
Chaw! xx