Gethin

Coginio Cyw Iâr 

Fideo Diweddaraf: Coginio Cyw Iâr, 22 Tachwedd, 2009

Fy enw i yw Gethin Thomas ac rwyf yn byw yng Nghaernarfon. Mi fues i'n byw yn Barcelona am dair mlynedd ac rwyf bron yn rhugl mewn Sbaeneg. Mae cynhywsion a bwyd Sbaeneg wedi dylanwadu ar fy steil o goginio a dwi'n hoff iawn o fwydydd ffres a blasus sy'n ddigon hawdd i'w paratoi! Roeddwn yn gystadleuydd ar raglen Casa Dudley ac rwyf hefyd wedi bod i Ysgol Goginio Rick Stein yn Padstow, Cernyw. Yn ogystal a choginio rwyf hefyd yn mwynhau cerddoriaeth ac rwyf yn gyn aelod o fand Gwacamoli oedd yn flaenllaw yn yr SRG rhwng 1997 a 2001. Rwyf yn gobeithio dangos i chi sut i goginio prydoedd sy'n hawdd i'w coginio, yn flasus i fwyta gan ddefnyddio cynhwysion syml!