Iawyyyn?!! Gwawr, merch 21 oed o gyffinie Merthyr Tudful ydw i!
Cyn dechre'r swydd gydag UNED5 ro'n i'n fyfyrwraig dlawd yn Aberystwyth yn astudio Cymraeg a Drama, ond erbyn hyn ‘wy’n byw yng Nghaernarfon ac yn mwynhau mas draw!
Fy hoff bethe i yw canu, mynd i gigs, actio a mynd i’r theatr! Os y'ch chi'n lico carioci mae'n siwr na fydda i ddim yn rhy bell i ffwrdd!
Fel arfer 'wy'n gwrando ar gerddoriaeth eclectic iawn o sioeau cerdd i pop i roc! Unrhywbeth sydd ar y radio ar y pryd a bod yn onest!!
Yn fy amser rhydd 'wy’ hefyd yn mwynhau roadtrips, gwylio’r teledu a rhywbeth arall ’wy’ ’di dechre gwneud yn ddiweddar yw nofio – mae’n rhaid bod Meical wedi fy ysbrydoli!!
Wy'n mwynhau’r her o gyflwyno UNED5 ac yn joio gweithio gydag Ell, Gwenj, Tuds, Leni a Rhyds!! Gobeithio bo’ chi’n mwynhau gwylio!
Shw’mae?! Fi yma eto!
Wel, mae’n aeaf nawr nagyw hi?! Mae ‘di oeri lot a ma’r glaw ‘di dechre, ych!!! Ond nes i drio dianc fy anhapusrwydd (a’r tywydd)trwy dreulio’r noson mewn sdafell chwyslyd yn un o gigs Bang Bangor nos Iau!! Ges i noson ffab a roedd Y Niwl yn grêt! Fydda i’n edrych ymlaen at eu gweld nhw eto – gobeithio bydda nhw’n chware yn ardal Caernarfon cyn hir!
Ges i Chinese neis yn Llanberis nos Sadwrn a gwylio’r X Factor – ro’n i’n dechre poeni pan oedd Lloyd druan yn y gwaelod, ond yn falch bod y cyhoedd wedi’i achub e (dim ond jesd)! Ona ma angen mwy o gefnogaeth arno fe!!! Sai’n credu bydd e’n ennill achos bod e mor ifanc a ma’ rhai o’r bobl yn y gystadleuaeth lot hyn na fe ond mae Lloyd dal i fod yn ffefryn i fi!!! Pob lwc boi!
Nes i drio gyflwyno Elliw a Gwenno i ‘Kath and Kim’ nos Sul, ond sai’n credo bod nhw’n mynd i fod yn ffans – yn enwedig Gwenno, ond efallai allai berswadio Elliw i wylio ‘chydig bach mwy gyda fi rhyw noson w’thnos ‘ma!
Wy’n edrych ‘mla’n at fynd i aerobics heno a nofio nos ‘fory (rhaid dechre cael gwared o’r holl Galaxy Caramel ‘wy ‘di bod yn bwyta!) ond dwi’n mynd allan am bryd o fwyd i ddathlu penblwydd Elin (sy’n gweithio gyda ni) nos fory hefyd fydd yn lyfli!
Dyna ni am nawr, tan tro nesa’, cofiwch beidio yfed pop sy’n fflat!!! xx