Mai? Gwenno Haf dwi, ond mae pawb yn fy ngalw i'n Gwenji.
Dwi'n byw ar ffarm yn Rosgoch ger Amlwch ond dwi'n bell o fod yn hogan ffarm gan fy mod i yn casau mwd a baw!
Mi oedd gennai swydd rhan amser gyda'r cwmni dillad 'Oasis' ym Mangor - felly, yn amlwg, mae gennai ddiddordeb mewn ffashiwn.
Dwi'n tueddu gwario fy ngheiniogau prin i gyd ar ddillad.. Dywed rhai fod gennai gaethiwed i'r lle!
Pan dwi ddim yn siopa, dwi fel arfer yn gwylio rhaglenni teledu, megis 90210, Sex and the City, Doctor Who ac hyd yn oed Pobol y Cwm.
Mi fyddai hefyd yn mwynhau eistedd i lawr gyda bag o Jelly Babies yn gwylio ffilmiau!
Dwi'n mwynhau bob math o ffilmiau - heblaw am ffilmiau rhy ferchetaidd! Fy hoff ffilmiau i ydi' 'The Wizard of Oz' a 'The Silence of the Lambs', sydd yn gyfuniad gwahanol iawn.
I ymlacio, mi fyddai fel arfer yn gwrando ar gerddoriaeth. Fy hoff fand Cymraeg i ar y funud heb os nac oni bai ydi'r Sibrydion, ac fy hoff fand Saesneg ydi The Killers!
Ond, toes na ddim byd yn bod ar ychydig o glasuron gan Sobin a'r Smaeliaid, neu'r Beatles chwaith! Dros y blynyddoedd dwi wedi mabwysiadu'r ffug enw Gwenno Chwinc - gewch chi benderfynnu pam!
Sud ‘da chi ers dalwm? Www wel, dwi di cael wythnos eitha prysur yr wythnos ddwytha ‘ma! Fel da chi’n gwbod, mi fush i a Mam yn y Trafford Centre wythnos dwytha. Mi oeddwn i mewn nefoedd bach fy hun, yng nghanol y siopa i gyd! Ag oedd hi’n braf peidio gorfod poeni am fynd a chotia ac umbarels hefo ni gan bod pob dim o dan dô. Ella mod i di gwario ‘chydig bach gormod, ond be di’r pwynt mynd i siopa a phedio gwario?!
Nos Wener oedd Cymru yn herio Samoa! Yn anffodus yng Nghaernarfon ac nid yng Nghaerdydd oeddwn i’n gwylio’r gem, ond nes i fwynhau beth bynnag. Toeddwn i’n licio dim ar y crysau melyn oedd Cymru yn ei wisgo chwaith! Dwi’n lwcus fy mod i ddim yn chwara rygbi i Gymru oherwydd tydi’r lliw melyn ddim yn fy siwtio i O GWBWL!!!
Gesh i ddiwrnod o ddiogi Dydd Sadwrn yn gwylio ‘C’mon Midffild’ trwy’r dydd. Dwi di gweld nhw i gyd o’r blaen ond dwi dal i fwynhau nhw yn ofnadwy! Clasur a deud lleiaf. Mi oeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at Nos Sul - pennod newydd o ‘Doctor Who’ a chyfres newydd o ‘Top Gear’ yn cychwyn! Oedd ‘Doctor Who’ yn anhygoel!!! Fedra’i ddim aros tan y Nadolig i weld y bennod nesaf, ond dwi ddim ishio i David Tennant adal chwaith. Ac, fel arfer, mi oedd ‘Top Gear’ yn ddoniol dros ben!
Cyn i mi fynd, rhaid i fi son yn sydyn am albym newydd Robbie Williams! Och – mae’n ffab! Pam dio ddim yn Rhif 1 yn siart yr Albym’s dwi DDIM yn gwbod. Mae o’n llawn haeddu bod yna!!!
Reit – dwi’n mynd yn nôl i wrando ar yr hen Robbie am y canfed tro bellach masiwr!!!
Hwyl a Fflag a Safety Belt!!! xxx