Leni

Sgwrs Iwan Charles - Mawrth 28 

Fideo Diweddaraf: Sgwrs Iwan Charles - Mawrth 28, 28 Mawrth, 2010

Helo, wel dyma beth od, sgwennu amdano fi fy hun! Wel i fi’n dod o Bontyclun jest tu allan i Gaerdydd lle es i’r ysgol cyn mynd i brifysgol Caerwysg i astudio drama.

Cyn dod lan yma i Gaernarfon i ymuno â thim UNED5 bues i’n neud llond sach o wahanol bethau gan gynnwys gweithio i’r hen Mr Urdd a dysgu dawnsio i Igi Tigi Bip a Bop – amser gyda llond sach o atgofion melus!

Dwi ychydig bach o geek yn anffodus ac yn ffan enfawr o gadgets a chyfrifiaduron a thechnoleg newydd – os aiff e’n gynt neu os yw e’n fwy lliwgar dwi eisiau cael yn nwylo arno fe - ac mae stiwdio UNED5 yn llawn ohonynt.

Petawn i’n cael fy niwrnod delfrydol se ni’n dechrau gyda bore cyfan o sgio cyn gwylio Fernando Torres yn neud ei bethau i dim Lerpwl dros ginio, cael mynd i sioe ffasiwn yn y pnawn (a chael dewis o leiaf 20 eitem i gadw!) a dawnsio tan yr hwyr gyda’r hen Britney!

’Wy wrth fy modd gyda ffasiwn a methu aros am gyfres newydd ANTM a sdim byd yn codi fy nghalon yn fwy na chael noswaith i fewn gyda Carrie, Samantha, Charlotte a Miranda.

Felly os welwch chi ferch yn gwisgo pâr o sgis, bathodyn Mr Urdd, crys Lerpwl ac yn cario poster o Huw Ffash yn crwydro Caernarfon plis stopiwch fi - dwi siwr o fod ar goll!

03 Tachwedd, 2009

Ka mate! Ka mate!
Ka ora! Ka ora!

Woop di di mae’n amser am bach o rygbi! Mae wedi bod yn itha tawel yn y byd rygbi rhyngwladol ers taith y llewod ond co ni mae’r amser na wedi cyrraedd i ni Gymru fach brofi ein hunain unwaith to i’r crysau duon na! Beth gewch chi’n well ar brynhawn Sadwrn na llond bowl o grisps, Huw Llewelyn Davies a 30 dyn hynci yn rhedeg ar ôl un bêl! NEFOEDD!

Llongyfarchiadau mawr i ennillwyr ein cystadleuaeth ni wthnos ma - gobeithio newch chi joio mas draw yn sdadiwm y mileniwm.

Newyddion arall: Unwaith eto i fi’n stiff!
Mewn ymdrech i drio pob antur sydd gan y gogs i gynnig es i i gerdded yr Wyddfa a wedyn mynd am wers ddringo ym Mhlas y Brenin! Allai ddim ategu pa mor bwysig yw hi i dwymo lan cyn dechre – i fi nawr mewn sefyllfa ble bore ma gorfod i fi gael yn ‘housemate’ i i redeg bath i fi gan o ni ffili troi’r tap mlan gan bo fi mor stiff!
Gobeithio fyddai’n gallu symyd erbyn dydd sul!!

Leni Hatcher Leni Hatcher