Helo, Lisa dwi a dwi'n dod o Gaernarfon ac dwi wrth fy modd yma!
Dwi wedi byw yng Nghaernarfon ar hyd y mywyd, ac ar hun o bryd ddim yn bwriadu gadael, ond rhyw ddiwrnod mi faswn i wrth fy modd yn mynd i drafeilio a chael gweld ychydig o'r byd.
Yn fy amser rhydd dwi'n mwynhau cymdeithasu, mynd i gigs gwahanol, nofio, ymlacio a chysgu.
Fy hoff bethau yn y byd ydi chwerthin, peis, ffilmiau, fy ngwely a Meical!
Dwi'n edrych ymlaen i gadw golwg ar y gerddoriaeth, bandiau a gigs diweddaraf yng Nghymru a thu hwnt!
Dwi'n berson direidus sydd dim yn cymryd bywyd yn rhy siriys!
Os bysa'n rhaid i mi ddisgrifio'n hun mewn tri gair, y geiria fydda Hapus, Bywiog a Cwl.
Helo, gobeithio bod pawb yn iawn ac yn mwynhau'r tywydd oer 'ma!!!
Dwi di bod yn brysur iawn dros yr wythnosau dwytha, yn teithio rownd Cymru i fynd i gigs gwahanol!!! Ma rhaid i mi ddeud mai fy ffefryn i oedd y Super Furry Animals ym Mangor, fe chwaraeon nhw lwyth o'r hen ffefrynau, ac fy ffefryn personol i, Helo Sunshine.
Fel mae'r tywydd yn oeri, mae'r gigs yn diflannu hefyd! Does 'na ddim llawer o gigs na gwyliau dros y gaeaf rwan, ond peidiwch a poeni, mae 'na ddigon o cds newydd yn dod allan, pawb yn gobeithio bod ar frig y siartiau dros y Nadolig. Ond mi allai ddeud y mod i bron yn sicir mai enillydd yr X Factor fydd ar frig y siartiau Nadolig yma, felly mae hi bob blwyddyn erbyn hyn. Dwi'n croesi bysedd mai nid John ac Edward fydd ar y brig, fe fysa hynny'n drychineb!!!
Dwi'n edrach ymlaen i'r rygbi ddechrau penwythnos yma - dwi ddim yn gefnogwr brwd o rygbi, ond dwi wrth y modd efo'r cymdeithasu sy'n dod efo gwylio'r gemau!! Penwythnos yma mae 'na griw ohonon ni'n mynd i wylio Cymru'n herio Seland Newydd yn ty fy ffrind....edrach ymlaen!!
Dwi wedi cyffroi ers tua wythnos rwan, achos dwi'n mynd i weld Ricky Gervais yn fyw yn Manceinion wythnos nesaf, dwi methu disgwyl. Dwi wrth fy modd efo fo, felly cofiwch ddarllen i chi gael gwybod sut noson oedd hi.
Cofiwch os oes 'na gig ddylwn i wybod amdano, cysylltwch!
Hwyl a Fflag am y tro, Lisa *