Hiya Rhydian Bowen Phillips sydd yma, Rhyd Bo Phil nid Rhydian o'r X-Factor!
Yn wreiddiol o'r Porth yn y Rhondda ond nawr yn byw yng Nghaerdydd ers 8 mlynedd.
Wrth fy modd yn gwylio pêl-droed a siarad am bêl-droed Caerdydd, Lerpwl a Cymru!
Fy niddordebau eraill yw gwylio ffilmiau yn y sinema ac ar dvd, chwarae PS3, cadw'n heini yn y gym a gwrando ar gerddoriaeth o bob math yn enwedig Prodigy, GLC a Super Furry Animals!
Mae Uned5 yn ol am gyfres arall ond y tro 'ma yn fyw am 2 awr bob dydd Sul o 12:30 tan 14:30. Mari Lovgreen wedi mynd wrth gwrs, mi fydd Llinos Lee yn ffilmio eitemau yn wythnosol ond dwi'n edrych mlaen yn fawr iawn i weithio gyda'r criw newydd sef Leni, Tudur, Gwawr, Gwenno ac Elliw!