Tudur dwi! Fy mhrif ddiddordeb i ydi chwarae golff. A choeliwch chi fi, mi â’i am gêm fach os ga’ i ond hanner cyfle! Mae gen i raddnod a dri a dwi’n chwarae ers pan oeddwn i tua 11 oed. Yn ogystal â hoffi golff mae gen i ddiddordeb eang mewn bob math o chwaraeon.
Fy nhîm pêl-droed i ydi Everton, dwi’n gefnogwr brwd ac wrth fy modd yn gwawdio fy ffrindiau pan ‘da ni’n gwneud yn dda, sydd wrth gwrs yn aml iawn! Mae gen i ddiddordeb hefyd yng nghyngrair Cymru, dwi’n cefnogi Porthmadog, er bod gen i fan gwan tuag at Bangor ac Aberystwyth (peidiwch â dweud wrth neb!). Dwi’n hoffi mynd i’r sinema a’r theatr pan ga’i gyfle a dwi’n mwynhau bod yng nghwmni fy ffrindiau yn cael hwyl. Dwi’n meddwl bod gen i wybodaeth gyffredinol eitha da, heb frolio fy hun yn ormodol wrth reswm!
Cyn ymuno â thîm UNED5 mi fues i yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn actor gyda Cwmni’r Frân Wen yn mynd o gwmpas ysgolion Conwy, Môn a Gwynedd a mi fues i yn rhan o dîm rhaglen Sgorio a Sgorio Cymru.
Fy uchafbwynt ar UNED5 hyd yn hyn yw cael cyfweld Joe Calzaghe.
Does dim Uned 5 wythnos nesaf, ac wrth lwc, penwythnos yma mae aduniad flynyddol tîm golff Prifysgol Aberystwyth. Oeddwn i’n gapten ar y tîm yn fy nhrydedd flwyddyn yn Aber ac felly dwi’n edrych ymlaen yn fawr i weld pawb eto.
Nos Sadwrn diwethaf es i weld drama newydd Theatr Genadlaethol Cymru, Y Gofalwr. Rhaid cyfaddef fy mod bron a cysgu yn ystod hanner cyntaf y perfformiad ond roedd yr ail hanner ar y llaw arall yn gofiadwy iawn.
Ddoe fel rhan o eitem fydd yn cael ei ddangos ar Uned 5 wythnos i ddydd Sul aeth Gwawr, Leni a fi i Fanceinion i wneud naid awyr! Na wnaethom ni ddim neidio allan o awyren ond yn yn hytrach cael ein taflyd i mewn i sambr efo gwynt oddeutu 180 m.y.a yn ein codi ni.....sôn am hwyl! Cofiwch wylio Uned 5 y 14eg o Fawrth!