28 Chwefror, 2010
21 Chwefror, 2010
14 Chwefror, 2010
07 Chwefror, 2010
01 Chwefror, 2010
31 Ionawr, 2010
Mae Meical Owen wedi gorfod derbyn llawer o sialensau yn ei amser fel rhan o dîm Uned5 ond yn ddiweddar bu'n rhaid iddo geisio concro her anferth arall.
Mae Meical yn nofiwr cryf ac mae'n ymarfer yn gyson mewn Canolfan Hamdden ble mae'r dŵr yn 28/29'C ond penderfynodd Uned5 ei dynnu o'r cynhesrwydd moethus a'i daflu i ddyfnderoedd rhynllyd iawn.
Roedd yn rhaid iddo addasu i ddŵr oer cyn hedfan draw i Slofenia i gystadlu ym Mhencampwriaeth Nofio Gaeafol y Byd. Er fod hyn yn gamp sy'n tueddu i ddenu y cenedlaethau hŷn fel rheol, dyma'r 3ydd tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn dilyn Oulu, Y Ffindir (2006) a Llundain (2008). O'r 600 o dros 20 gwlad a gystadlodd, Meical oedd yr unig ddyn i gynrychioli Cymru.
Cafodd holl waith paratoi Meical ei wneud yn ardal Eryri gyda'r rhan helaeth yn Llyn Padarn, Llanberis. Er i'r arbenigwyr ddatgan mai eleni oedd y gaeaf gwaethaf i'r wlad ei weld mewn 30 mlynedd, doedd hyd yn oed Meical ddim yn disgwyl i'r llyn fod mor oer ag yr oedd y dydd cafodd brofi'r dŵr oer am y tro cyntaf.
Yn amlwg, gall dŵr oer fod yn llethol gyda llawer o beryglon. Hypothermia yw un o'r prif beryglon ac felly roedd yn bwysig nad oedd y cyflwynydd yn sefyll o gwmpas wedi gadael y llyn. Roedd yn rhaid iddo gadw ei hun yn weithgar i wneud yn siwr nad oedd tymheredd ei gorff yn gostwng yn gyflym.
Roedd Meical yn ei ffendio hi'n anodd iawn delio efo'r effaith boenus yr oedd y tymheredd yn ei gael, yn enwedig ar ei draed. Mae'r rhan fwyaf o nofwyr gaeafol profiadol yn dod o Sgandinafia neu o wledydd yr hen Undeb Sofietaidd felly does dim rhyfedd fod hogyn o Ben Llŷn yn ei gweld hi'n rhyfedd. "Hon oedd y sialens anodda' i mi ei wynebu hyd yn hyn. Alla'i ond ei disgrifio fel sialens flinedig iawn, ym mhob ystyr y gair. Wedi deud hynny roedd hwn yn gyfle i fynd ar daith er mwyn darganfod mwy am fi fy hun gan gynnwys lle roedd fy ffiniau."