Cystadlaethau UNED5

Cystadleuaeth y We UNED5 - 1

Ennill CD Y Diwygiad - Hymn 808

Ennill CD Y Diwygiad - Hymn 808

Mae'r Diwygiad yn fand hip-hop Cymraeg gyda cyn-aelodau o'r grwp Genod Droog. Hymn 808 yw albwm gyntaf y band ac yn cynnwys rapio yng Nghymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Brythoneg!!!

Cystadlu!

Cystadleuaeth y We UNED5 - 2

Ennill Hunangofiant Nigel Owens wedi'i Arwyddo!

Ennill Hunangofiant Nigel Owens wedi'i Arwyddo!

Mae rhai o enwau mawr y byd rygbi yn honi mai Nigel Owens yw un o'r dyfarnwyr gorau yn y byd a mae ei hanes yn un difyr iawn - mae'r gystadleuaeth yma'n gyfle i chi cael cip ar yr hanes hwnnw gan mai'r wobr yw copi o'i hunangofiant lwyddianus 'Hanner Amser'

Cystadlu!

Enillwyr

Llongyfarchiadau i 'wmgriffith' enillodd y CD Susan Boyle!

Gobeithio fod y Pecyn o CD's o'r SRG wedi plesio Dylan Roberts... a pawb gafodd gwrando arnyn nhw gyda Dylan!

Cafodd Dyfan fynd i weld panto yn Llandudno dros y Nadolig diolch i wefan Uned5 – gobeithio nes di fwynhau Dyfan...

Y neges wneth ennill yn cystadleuaeth Llyfr Malcolm Allen oed yr un symlaf – Caria 'Mlaen i Ymarfer – Owain o Ruthun oedd yn fuddugol

Y Rociwr wnaeth Ennill y gystadleuaeth i ennill EP Something Personal oedd Neil Bach – llongyfarchiadau!

Enillydd y tocynnau i gem Cymru v Awstralia oedd Dewi Alun Foulkes o Fethel ger Caernarfon sydd yn astudio ym mhrifysgol Caerdydd. Ddim yn bell i drafeilio felly Dewi!!

Llongyfarchiadau i Paul Spanswick o'r Rhondda wnaeth ennill holl gyfresi Friends ar DVD – gobeithio wnei di mwynhau'r 80 awr o wylio!

Llongyfarchiadau i Meirion Evans wnaeth ennill 2 docyn i weld y Gleision yn herio Awstralia ar y 24 o Dachwedd. Bechod am y canlyniad :(

Llongyfarchiadau i Guto Bryn Jones enillodd 2 docyn i weld Cymru’n herio’r Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm – Aeth Guto a'i ffrind Ben "Bolognese" i wylio'r gêm – gobeithio gafoch chi hwyl!