Elin Fflur

Elin Fflur

Mae Elin Fflur yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Daeth i amlygrwydd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2002 gyda'r gân fuddugol, Harbwr Diogel. Ers hynny, mae'r ferch o Ynys Môn wedi parhau i gyfansoddi ar ei liwt ei hun ac wedi rhyddhau sawl albym boblogaidd gan gynnwys 'Cysgodion' a 'Dim Gair'.