Al Lewis

Al Lewis

Cychwynodd Al ei yrfa fel artist unigol ar ôl treulio blwyddyn yn Ffrainc yn canu i’r bobl leol. Ers hynny mae wedi rhyddhau nifer o EP’s a daeth hefyd yn ail yng Nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2007. Erbyn hyn mae Al Lewis wedi rhyddhau albym o’r enw Sawl Ffordd Allan. Mae’r albym yn gymysgedd o arddulliau gwahanol o roc i faledi, gyda Meic Stevens yn canu ar un o’r caneuon.