Nia Parry, Elin Phillips ac Amanda Prothero Thomas yn pori drwy papurau'r Sul gyda Rhydian... pa newyddion sydd wedi taro ein gwesteion?
Dechreuodd gyrfa cyflwyno Amanda wedi iddi gael slot ar Heno yn trafod materion ffitrwydd a iechyd. 'Roedd hi’n berffaith ar gyfer y swydd gan ei bod hi’n arfer rhedeg clwb ffitrwydd. Yn dilyn ei slot ar Heno, cafodd gynnig i gyflwyno Sgorio gan ei bod yn hyfforddwraig bêl-droed. Erbyn hyn mae hi wedi teithio’r byd fel rhan o’i swydd gyda rhaglenni fel Pacio ac Away Days. Enillodd deitl dynes mwyaf rhywiol Cymru, ac mae hi wrth ei bod yn derbyn her o unryw fath!