Bethan Elfyn yw un o'r merched prysuraf ym myd cerddoriaeth! Yn ogystal â bod yn aelod o'r Vinyl Vendettas, mae hi hefyd yn DJ ar BBC Radio1 yng Nghymru, ar C2 Radio Cymru ac hefyd yn un o feirniaid cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 bob flwyddyn. Yn ei amser ychwanegol mae Bethan yn trefnu gigs yng Nghaerdydd gyda phwyslais ar gynnig llwyfan i artistiaid newydd o Gymru.