BRIGYN yw prosiect cerddorol y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts o ardal Eryri. Mae eu sŵn yn gymysgedd o gerddoriaeth werin fodern, curiadau electronig, a defnydd helaeth o samplau cerddorfaol. Mae’r band wedi rhyddhau 3 albym a'u sengl ddiweddaraf ydy fersiwn Cymraeg o gân Leonard Cohen ‘Haleliwia’.