Mae Caryl Parry Jones yn gantores bop boblogaidd iawn yng Nghymru. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig, actores, cyflwynwraig ac yn hyfforddwraig llais. Mae Caryl wedi bod mewn nifer o grwpiau pop dros y blynyddoedd, gan gynnwys Sidan, Injaroc, a Caryl a’r Band. Yn fwy diweddar mae Caryl wedi bod yn feirniad ar y rhaglen Wawffactor, ac hi hefyd oedd Bardd Plant Cymru 2007-2008.