Cydnabyddir Cate le Bon (Cate Timothy) fel un o brif dalentau y sîn gerddorol yng Nghymru. Yn dilyn ymddangosiad yng Ngŵyl Glastonbury a chyfraniad ar un o senglau prosiect cerddorol 'Neon Neon' rhyddhaodd Cate ei EP cyntaf ei hun, 'Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg'. Mae hi am ryddhau ei hablym gyntaf o’r enw ‘Me o My’ yn fuan.