Mae Catherine yn wreiddiol o Gaerfyrddin ac fe aeth i Ysgol Bro Myrddin cyn symud i Ysgol Gyfun Maes Yr Yrfa. Mae’r actores yn wyneb cyfarwydd ac wedi ymddangos ar raglenni fel Darn o Dir, Pobol Y Cwm a Cowbois ac Injans. Mi fydd sawl person hefyd yn adnabod Catherine am fod yn gystadleuwraig brwd mewn Eisteddfodau’r gorffennol!