Derwyddon Dr Gonzo

Derwyddon Dr Gonzo

Derwyddon Dr Gonzo

Mae Derwyddon Dr Gonzo yn fand ffync poblogaidd iawn o ardal Caernarfon a ddaeth i amlygrwydd drwy eu perfformiadau egniol ar hyd a lled y wlad. Ers ennill Brwydr y Bandiau nôl yn 2005 mae nhw wedi mynd o nerth i nerth a cafodd eu sengl 'KO/Madrach' ei chwarae ar BBC Radio 1 a hyd yn oed ar Radio Serbia!