Eleri Sion

Eleri Sion

Cafodd Eleri Sion ei geni ar fferm yn Neuaddlwyd, Aberaeron. Daeth i’r amlwg i ddechrau yn actio a chanu mewn ambell i bantomeim cyn iddi gychwyn cyflwyno ar S4C. Mae hi i’w chlywed bob bore ar Radio Cymru efo Daf Du sy’n lwyfan perffaith iddi ddangos ei chymeriad lliwgar, llawn hiwmor. Cyn hyn bu’n cyflwyno rhaglenni fel Wawffacor, Jonathan, Bwrw’r Bar a Cadair Fawr Eleri Sion.