Emma Walford

Emma Walford

Emma Walford

Dyma gynnig Emma Walford!

Cantores, actores a chyflwynwraig sy’n wreiddiol o Abergele. Roedd hi’n aelod o’r band hynod boblogaidd a llwyddiannus Eden yn y 90au. Aeth ymlaen i actio mewn rhaglenni fel Hotel Eddie oedd yn dangos ei dawn o wneud i bobl chwerthin. Erbyn hyn mae hi’n cyflwyno Wedi 3 a Casa Dudley ac mae hi hefyd i’w chlywed ar Radio Cymru o bryd i’w gilydd. Mae hi’n dal i ganu mewn band sy’n canolbwyntio ar gyfnod yr 80au o’r enw Footloose.