Mae Gai Toms yn ffigwr amlwg iawn yn y Sin Roc Gymraeg.'Roedd yn aelod o’r band poblogaidd Anweledig, yna fe aeth ymlaen i fod yn brif leisydd y band Mim Twm Llai, erbyn hyn mae wedi gollwng yr enw Mim Twm Llai, ac yn perfformio fel Gai Toms a’r Band. Rhyddhaodd Gai albwm ego-gyfeillgar, Rhwng y Llygru a’r Glasu, recordiodd yr albwm yn gyfan gwbl gyda egni glan.