Mae’r actor yma, sydd yn wreiddiol o Bwllheli, yn adnabyddus am chwarae rhan Osian yn y ddrama Caerdydd ar S4C. Mae Gareth wedi ymddangos mewn nifer o raglenni eraill fel Y Pris, Teledu Eddie, Cowbois ac Injans, Pobol y Cwm, Hollyoaks a Chosen. Hefyd, mae Gareth wedi ymddangos yn y ffilm Cymru Fach. Yn ogystal ag actio mae Gareth yn aelod o’r band Hafaliadau.