Band hynod boblogaidd o ardal Blaenau Ffestiniog ydy Gwibdaith Hen Frân. Mae eu caneuon ysgafn sy’n llawn hiwmor wedi creu argraff fawr ar Gymru, ac wedi golygu eu bod wedi gwerthu nifer o gopiau o’u dwy albym – Cedors Hen Wrach a Tafod dy Wraig. Nhw ydi un o fandiau prysuraf Cymru.