Mae'r gyfres newydd o Rownd a Rownd ar y teledu - dyma Gwion a Lois neu 'Ifan' ac 'Elin' o'r rhaglen yn sgwrsio gyda Gwawr
Mae Gwion sydd yn wreiddiol o Lansannan wedi bod yn chwarae rhan Ifan ar Rownd a Rownd ers tair blynedd bellach. Mae’n wyneb cyfarwydd ar y sgrin fach , ac mae Gwion hefyd yn cael dipyn o lwyddiant ar y llwyfan hefyd - fel aelod o Gôr Bro Aled a Hogia’r Berfeddwlad.