Mae Lleuwen yn gantores a chyfansoddwraig o Benmon yn Ynys Môn. Mae’r rhan fwyaf o hyfforddiant llais mae Lleuwen wedi ei dderbyn wedi bod yn hyfforddiant canu clasurol, ond dywed bod gwrando ar Billie Holiday ac Ella Fitzgerald wedi cael dylanwad mawr arni pan yn iau. Rhyddhaodd ei sengl cyntaf nôl yn 1998, pan ond yn 17 oed, Draw Dros yr Afon.