Mi oedd Huw yn aelod o fand Kentucky AFC a Mr Huw yw ei brosiect unigol cyntaf. Cafodd albym cyntaf Mr Huw ei ryddhau yn 2007 ac mae ganddo albym newydd o’r enw ‘Hud a Llefrith’ a gafodd ei ryddhau yn gynharach y flwyddyn yma. Mae Huw yn adnabyddus am ei hiwmor tywyll a’i gerddoriaeth unigryw.