Sefydlwyd 'Pwsi Meri Mew Movement' nôl yn 2005 gan rai o aelodau'r cyn-fand poblogaidd, Radio Luxembourg, tra'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ôl adroddiadau mae rhai o'r aelodau rheini yno hyd heddiw ond mae'r band sgiffl, seicadelig bellach wedi bathu yr enw syml, Pwsi Meri Mew. Mae eu setiau byw yn cynnwys 'Petha Bach', 'Leinia Fi' ac 'Y Gnawas'.