Rhys Ap William

Rhys Ap William

Yn dilyn ei berfformiad mewn cyfresi fel 'Tair chwaer', 'Gari Tryfan' a 'Cowbois ac Injans', mae Rhys ap William wedi dod yn fwy adnabyddus fel ei gymeriad dadleuol ar Pobol y Cwm, Cai Rossiter. Bydd dilynwyr rygbi Cymru yn adnabod llais Rhys fel llais Stadiwm y Mileniwm gan mai ef fydd i'w glywed, yn aml, pan fydd cais yn cael ei sgorio!