Mathew Glyn gyda Goreuon y We, mis Rhagfyr
Mae'r actores o Rydaman - sydd ond yn 23 mlwydd oed - eisoes wedi ymddangos mewn sawl rhaglen adnabyddus ar y sgrin fach gan gynnwys Torchwood, Tess of the d'Urbervilles ac Affinity. Ar hyn o bryd mae hi i'w gweld yn chwarae rhan Cat yn y gyfres ddrama Blodau.