Mi fyddwch yn adnabod Shelley yn bennaf am chwarae rhan Stacey ar Pobol Y Cwm ond bellach mae’n ymddangos yng Nghyfres S4C ‘Dau dŷ a ni’. Cafodd Shelley ei geni yn y Rhondda ac fe aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae Shelley yn dal i fyw yn yr ardal. Mae ganddi ddwy ferch ac yn mwynhau mynd i'r theatr a dilyn rygbi!