Daeth Sian yn enwog fel dynes tywydd mwyaf ‘glam’ Prydain. Yn enedigol o Faesteg, roedd rhieni Sian yn athrawon ac yn ystod ei phlentyndod cystadlodd nifer o weithiau yn Eisteddfod yr Urdd. Cafodd ei pherthynas gyda’r gwleidydd Lembit Opik ei ddilyn yn frwd gan y wasg tan iddynt wahanu’n 2006 ond bellach mae Sian wedi priodi’n hapus gyda’r dyn busnes Jonathan Ashman.