Ffurfiwyd y band gan y brodyr Osian a Meilir Gwynedd ac erbyn hyn mae Rhys Roberts, Fflos a Dafydd Nant wedi ymuno gyda nhw! Maent wedi rhyddhau dwy albym Gymraeg – Jig Cal a Simsalabim a hefyd un Saesneg – Campfire Classics a mae dwy o’r senglau oddi ar hwnnw wedi ennill sengl yr wythnos ar Radio 2. Yn ddiweddar mae’r albwm wedi cael ei ddewis fel rhif 12 yn siart o 100 albwm gorau’r flwyddyn yn The Sunday Times.