Yn ol C2 mae Y Niwl yn ‘super group’ Cymraeg gan fod ei aelodau’n cynnwys Pete (Gorky’s Zygotic Mynci), Sion Glyn (Topper, Cate Le Bon) Gruff (Eitha Tal Ffranco) ac Alun Tan Lan...(Alun Tan Lan). Mae’r band yn creu cerddoriaeth ‘syrff’ ac yn ol eu Myspace maent yn ymarfer ar y Grib Goch ar y Wyddfa... Lle bynnag mae nhw’n ymarfer, mae’n ffaith ei bod hi bron yn amhosib i beidio a symud eich corff tra’n gwrando ar Y Niwl.