Amodau a thelerau llawn cystadlu am wobr ar raglen Uned5

  1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth "" a gynhaliwyd yn rhan o raglen Uned5 â ddarlledir ar , .
  2. Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig, ac eithrio staff S4C ac Antena, eu teulu agosaf a chwmnïau y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.
  3. Cynigir gwobr o .
  4. I gystadlu, rhaid i chi ateb y cwestiwn "":
    drwy anfon neges destun i 07733 386335 gan nodi'ch ateb a'ch enw. Bydd unrhyw negeseuon testun a anfonir i'r rhif hwn yn costio uchafswm o 12c y neges sef y gyfradd arferol a godir gan eich rhwydwaith am negeseuon testun. Bydd y gystadleuaeth yn cau ar .
  5. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl yr amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth, ond efallai y codir tâl sylfaenol amdanynt gan weinyddwr y rhwydwaith.
  6. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.
  7. Rhaid i gystadleuwyr o dan 16eg oed gael caniatad rhiant neu warchodwr cyn cystadlu, ac ym mhob achos rhaid cael caniatad pwy bynnag sy'n talu am yr alwad.
  8. Caniateir hyd at bum ymgais o bob rhif ffôn symudol.
  9. Dewisir yr enillydd ar hap o blith yr holl geisiadau cywir a gyflwynir erbyn yr amser cau.
  10. Hysbysir yr enillydd mewn llythyr, mewn neges e-bost, neu mewn galwad ffôn ar ôl y dyddiad cau.
  11. Ar ôl y dyddiad cau, cyhoeddir enw'r enillydd a'r sir y maent yn byw ynddi ar s4c.co.uk/cystadlaethau am 21 diwrnod neu bydd modd cael y wybodaeth hon trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C neu trwy'r post oddi wrth Enillwyr Uned5, Antena, Uned2, Cibyn, Caernarfon, LL55 2BD.
  12. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:
    1. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu i Antena yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth
    2. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn
    3. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.
  13. Mae Antena a/neu S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd sail rhesymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.
  14. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng un o'r dulliau ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.
  15. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.
  16. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.
  17. Mae Antena a/neu S4C yn cadw'r hawl i gyfnewid y wobr, neu unrhyw ran ohoni, am wobr o'r un gwerth ariannol, neu o werth ariannol uwch, a bydd penderfyniad Antena a/neu S4C yn hyn o beth yn derfynol.
  18. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf postio, prawf galwad ffôn neu brawf anfon neges destun neu neges e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.
  19. Rhaid i'r enillydd wneud trefniadau i dderbyn neu gasglu'r wobr cyn pen 21 diwrnod ar ôl y dyddiad cau. Os na fydd modd i Antena a/neu S4C gysylltu â'r enillydd erbyn y dyddiad hwn trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Antena a/neu S4C i wneud hynny, bydd gan Antena a/neu S4C yr hawl i roi'r wobr i'r ail enw a dynnir ar hap, neu ddefnyddio'r wobr mewn unrhyw weithgarwch hyrwyddo gan Antena a/neu S4C yn y dyfodol, yn unol â'i disgresiwn llwyr.
  20. Mae Antena a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
  21. Mae Antena a/neu S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.
  22. Bydd Antena a/neu S4C yn dileu data personol pob cystadleuydd o fewn 21 diwrnod i ddyddiad cau'r gystadleuaeth
  23. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr
  24. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Antena, Uned2, Cibyn, Caernarfon.