Coginio Caws ar Dost gyda Elliw a Gethin

27 Medi, 2009

Rhydian a'r criw

Caws ar Dost

Cynhwysion
  • Garlleg ffresh
  • Bara*
  • Cawsiau Cymreig Gwahanol - Cheddar Cymreig, Caws Caerffili ayyb
  • Nionod coch
  • Finag Balsamig da
  • Teim
  • Siwgr Brown
  • Chives
  • Bloc o fenyn da
  • Bacwn wedi ei fygu

*Ni fydd bara wedi ei sleisio yn addas yn yr achos yma. Mae rhaid iddo fod yn fara gwyn, heb ei sleisio - bron iawn fel bara cartref.

Dull
Y Nionod

Torrwch y ddau nionyn yn eitha man

Rhowch ddarn o fenyn yn y sosban

Ychwanegwch y nionod

Ychwanegwch lwy go lew o siwgr brown, ychydig o finag balsamic a llwy de o deim ffresh

Coginiwch tan mae’r nionod wedi troi fel jam (peidiwch a'u llosgi)

Y Bara

O dan y gril tostiwch sleisien reit dda o fara ar y ddwy ochr

Torrwch y garlleg yn ei hanner a rhwbiwch y garlleg dros’ y bara

Rhowch y nionod ar y bara ac ychwanegwch ddau fath o gaws, gan orchuddio’r nionod i gyd

Rhowch ychydig o ddarnau o facwn wedi’u coginio ar y top

Tostiwch y bara o dan y gril, nes fod y caws wedi toddi ac yna rhowch ychydig o chives ar y top

Y Bwyta

Stwffiwch o mewn i’ch ceg - mmmmm...

Dyddiad:
27 Medi, 2009
Disgrifiad:
I ddathlu wythnos cenedlaethol caws Elliw a Geth sy’n coginio caws ar dost eitha arbennig!
Facebook

Nid oes sylwadau i'r Fideo hwn - bydd y cyntaf i adael sylw!

Rho dy enw, cyfeiriad ebost a neges yn y blychau isod (ni fyddwn yn rhannu dy ebost â neb!)