Coginio Chimichangas!

11 Hydref, 2009

Rhydian a'r criw

Chimichanga

Cynhwysion

  • Olew
  • Nionyn
  • 4 pupur peppadew
  • 2 ffilet cyw iâr
  • 2 tsili gwyrdd
  • 2 tun tomatos
  • 100g corn melys (sweetcorn)
  • 4 llwy fwrdd o saws pupur
  • 4 shibwn
  • 4 tortilla
  • pot o guacamole
  • Ffa Ffrengig (kidney beans)

Dull

Rhowch y nionod mewn padell ffrio a’u coginio nes eu bod yn frown. Yna ychwanegwch y garlleg, tomatos a tsili wedi’u torri’n fân.

Nesa, ychwanegwch y shibwns wedi eu torri'n fân, y saws pupur, ffa Ffrengig a'r corn melys.

Mewn sosban, rhowch y cyw iâr i ferwi am o leia 15 munud nes eu bod nhw wedi coginio drwodd. Tynnwch y cyw iâr o’r dŵr a'u rhwygo gyda dwy fforc yna eu hychwanegu i'r cymysg. Cymysgwch yn dda.

Nesa, cynheswch y tortiillas mewn popty ping. Rhowch chwarter o’r cymysg yng nghanol y tortilla a'i blygu i fewn i barsel. Rhowch ffon goctel trwy'r parsel i'w gadw ar gau. Rhowch y parseli mewn padell ffrio gydag ychydig o olew a'u ffrio tan yn liw euraidd. Gweinwch y chimichangas gydag ychydig o gwacamoli!

Dyddiad:
11 Hydref, 2009
Disgrifiad:
Geth sydd yn dangos i Elliw sut mae coginio y pryd Mecsicanaidd Chimichangas.
Facebook

Nid oes sylwadau i'r Fideo hwn - bydd y cyntaf i adael sylw!

Rho dy enw, cyfeiriad ebost a neges yn y blychau isod (ni fyddwn yn rhannu dy ebost â neb!)