Cŵn Poeth

01 Tachwedd, 2009

Rhydian a'r criw

Cŵn Poeth Anhygoel!

Cynhwysion

  • Bara Ffrengig
  • Pob math o selsig gwahanol
  • Nionod Coch
  • Menyn
  • 1 Nionyn wedi ei dorri’n fân
  • 25g/1owns o fenyn
  • 1 llwy fwrdd Olew Olewydd
  • 2 llwy fwrdd Finag Balsamic
  • 3 llwy fwrdd Siwgr Brown
  • Halen a Phupur

Ar gyfer y Sglodion Tew

  • Tatws Mawr
  • Halen a Phupur
  • Garlleg
  • Darnau o tsili sych

Y Cŵn Poeth

  • Ffriwch y selsig gwahanol mewn sosban
  • Torrwch ganol y dorth ffrengig
  • Rhowch y gwahanol selsig yn y dorth
  • Ychwnanegwch y nionod balsamig
  • Torrwch y dorth yn ddarnau, a’u gosod ar blât i’w rannu (pawb i gael gwahanol selsig yn eu rôl!)

Y Sglodion Tew

  • Torrwch y tatws yn wejis a’u berwi am 3-5 munud
  • Rhowch nhw mewn powlen ac ychwanegwch fylb cyfa o arlleg, llwy fwrdd o ddarnau o tsili sych, halen a phupur.
  • Tolltwch y sglodion tew i sosban boeth gyda’r olew olewydd yna rhowch nhw yn y popty nes eu bod wedi brownio!
  • Gweiniwch y sglodion tew a’r cŵn poeth ar blât anferth fel fod pawb yn gallu rhannu!
Dyddiad:
01 Tachwedd, 2009
Disgrifiad:
Dydd Iau bydd hi'n ddiwrnod Tân Gwyllt felly Geth ac Elliw sydd yn y gegin yn dangos i ni sut mae gwneud y cŵn poeth perffaith!
Facebook

Nid oes sylwadau i'r Fideo hwn - bydd y cyntaf i adael sylw!

Rho dy enw, cyfeiriad ebost a neges yn y blychau isod (ni fyddwn yn rhannu dy ebost â neb!)