Elliw Baines

06 Medi, 2009

Rhydian a'r criw

Dyddiad:
06 Medi, 2009
Disgrifiad:

Hia! Elliw Baines Roberts dwi neu Ell / Bainesy i'm ffrindiau! Dwi'n dod o Gapel Garmon ger Betws Y Coed. Ar fferm dwi'n byw ar hyn o bryd lle dwi wrth fy modd yn bod efo'r anifeiliaid a helpu ar y fferm ambell waith!! Ma geni fuwch o'r enw Jini a heffer o'r enw Popi! Yn 2008 cefais radd mewn Theatr a'r Cyfryngau ym Mangor.

Dwi newydd ddod yn ol adref i Gymru o Gaerwrangon (Worcester) ar ôl byw a gweithio yno am flwyddyn mewn Ysgol anghenion arbennig lle cefais brofiad gwych , ac yn sicr byddwn yn gwneud hyn eto yn y dyfodol. Yn fy amser sbâr dwi wrth fy mooodd yn SIOPA a dwi'n licio meddwl am fy hyn fel ryw' 'personal shopper'!! Dwi hefyd yn hoffi mynd am dro ,chwarae'r piano , dwi'n ysgrifennu dramau a gwahanol ddarnau creadigol pan dwi'n cael amser! Comediau yw rhan fwyaf o'r darnau dwi'n sgwennu , ond mae rhai darnau dyfnach ymysg fy nghasgliad bach!

Pan mae'n dod i gerddoriaeth , wel dwi wrth fy modd efo pob math o bethau - ychydig bach o roc , pop , 'dance' a.y.y.b!! Y CD sy'n cael ei chwarae amlaf yn fy nghar bach melyn ar hyn o bryd yw Lady GaGa ,ac heb anghofio'r clasuron cawslyd wrth gwrs!

Dwi'n falch iawn o gael y cyfle yma i weithio yn UNED5 ac yn edrych ymlaen at y profiad a dod i nabod pawb!

Facebook

Nid oes sylwadau i'r Fideo hwn - bydd y cyntaf i adael sylw!

Rho dy enw, cyfeiriad ebost a neges yn y blychau isod (ni fyddwn yn rhannu dy ebost â neb!)