Coginio Ffwlbri Mafon gyda Geth ac Elliw

25 Hydref, 2009

Rhydian a'r criw

Ffwlbri Mafon!

Cynhwysion

  • Losin siocled o’ch dewis
  • Meringue
  • Hufen Iâ
  • Raspberry Ripple’
  • Mefus
  • Mafon
  • Saws Mafon

A dewisiwch un o’r tri yma...

  • Dŵr pefriog blas gellygen ac eirin ysgaw (pear/elderflower)
  • ‘Cream soda’
  • Lemonêd

Dull (ar gyfer un gwydr)

Rhowch y losin siocled ar waelod y gwydr yna rhowch ychydig o saws mafon ar ei ben. Nesa, gosodwch un mefus wedi’i dorri ac un mafon ar ben y siocled a’r saws. Torrwch ychydig o’r meringue i fyny a’i roi yn y gwydr, yna mwy o saws mafon. I orffen, rhowch lond llwy o hufen iâ i fewn a chyn gweini ychwanegwch ychydig o’r dŵr pefriog neu lemonêd neu ‘cream soda’! Mwynhewch!

Dyddiad:
25 Hydref, 2009
Disgrifiad:
Ffwlbri mafon ydy'r pryd yr wythnos yma. Mae sawl haen melys i’r pwdin yma – siocled, meringue, hufen iâ ac hyd yn oed ychydig o lemonêd. Mae'n bryd fydd yn siwr o greu argraff ar eich ffrindiau neu'ch teulu neu mae'n rhywbeth melys i fwynhau ar eich pen eich hun!
Facebook

Nid oes sylwadau i'r Fideo hwn - bydd y cyntaf i adael sylw!

Rho dy enw, cyfeiriad ebost a neges yn y blychau isod (ni fyddwn yn rhannu dy ebost â neb!)