Gwawr Loader

06 Medi, 2009

Rhydian a'r criw

Dyddiad:
06 Medi, 2009
Disgrifiad:

Heia! Gwawr ydw i! 'Wy'n 21 oed ac yn dod o Fynwent y Crynwyr ger Merthyr Tudful. Cyn dechre'r swydd gydag UNED5 ro'n i'n fyfyrwraig dlawd yn Aberystwyth yn astudio Cymraeg a Drama.

'Wy'n edrych 'mlaen at fyw yng Nghaernarfon ac yn gobeithio bydd y bywyd cymdeithasol yma'r un mor 'fywiog' ag Aber!

'Wy'n hoff iawn o gymdeithasu, gigs a theatr! Os y'ch chi'n hoffi carioci mae'n siwr y byddai ddim yn rhy bell i ffwrdd!

Fel arfer 'wy'n gwrando ar gerddoriaeth eclectic iawn o sioeau cerdd i pop i roc!

Yn fy amser rhydd 'wy hefyd yn mwynhau 'sgwennu creadigol, roadtrips, darllen ('wy ddim yn geek, wir!) a gwylio'r teledu.

Comediau yw fy hoff raglenni fel arfer, mae 'The Office', 'American Dad', 'Gavin and Stacey' a 'Kath & Kim' yn ffefrynnau.

Cyn bo hir byddwch chi'n gweld fi'n gyrru o gwmpas Caernarfon mewn ka bach arian, triwch rhoi digon o le i fi - mae popeth mae pobol yn dweud am fenywod yn gyrru yn hollol wir!

'Wy'n edrych ymlaen at yr her o gyflwyno UNED5 ac yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r rhaglen gymaint a mae'r criw'n mwynhau gweithio arni!

Rhannu'r Fideo:
Dolen Fer: http://www.uned5.co.uk/s/kayur.
Rhoi Gwawr Loader ar Facebook neu Twitter
  1. Sara Crowley

    24 Hydref, 2009

    Wel jiw jiw Miss Loader! Sut yn y byd wyt ti? Pob lwc yng Nghaernarfon cariad, a phob lwc 'da uned5, byddi di'n fab!! Cariad mawr, Scrowley xxx

Rho dy enw, cyfeiriad ebost a neges yn y blychau isod (ni fyddwn yn rhannu dy ebost â neb!)