Hia! Elliw Baines Roberts dwi neu Ell / Bainesy i'm ffrindiau! Dwi'n dod o Gapel Garmon ger Betws Y Coed. Ar fferm dwi'n byw ar hyn o bryd lle dwi wrth fy modd yn bod efo'r anifeiliaid a helpu ar y fferm ambell waith!! Ma geni fuwch o'r enw Jini a heffer o'r enw Popi! Yn 2008 cefais radd mewn Theatr a'r Cyfryngau ym Mangor.
Dwi newydd ddod yn ol adref i Gymru o Gaerwrangon (Worcester) ar ôl byw a gweithio yno am flwyddyn mewn Ysgol anghenion arbennig lle cefais brofiad gwych , ac yn sicr roeddwn yn gwneud hyn eto yn y dyfodol. Yn fy amser sbâr dwi wrth fy mooodd yn SIOPA a dwi'n licio meddwl am fy hyn fel ryw' 'personal shopper'!! Dwi hefyd yn hoffi mynd am dro ,chwarae'r piano , dwi'n ysgrifennu dramau a gwahanol ddarnau creadigol pan dwi'n cael amser! Comediau yw rhan fwyaf o'r darnau dwi'n sgwennu , ond mae rhai darnau dyfnach ymysg fy nghasgliad bach!
Pan mae'n dod i gerddoriaeth , wel dwi wrth fy modd efo pob math o bethau - ychydig bach o roc , pop , 'dance' a.y.y.b!! Y CD sy'n cael ei chwarae amlaf yn fy nghar bach melyn ar hyn o bryd yw Lady GaGa ,ac heb anghofio'r clasuron cawslyd wrth gwrs!
Dwi'n falch iawn o gael y cyfle yma i weithio yn UNED5 ac yn edrych ymlaen at y profiad a dod i nabod pawb!
Ffurfiwyd y band gan y brodyr Osian a Meilir Gwynedd ac erbyn hyn mae Rhys Roberts, Fflos a Dafydd Nant wedi ymuno gyda nhw! Maent wedi rhyddhau dwy albym Gymraeg – Jig Cal a Simsalabim a hefyd un Saesneg – Campfire Classics a mae dwy o’r senglau oddi ar hwnnw wedi ennill sengl yr wythnos ar Radio 2. Yn ddiweddar mae’r albwm wedi cael ei ddewis fel rhif 12 yn siart o 100 albwm gorau’r flwyddyn yn The Sunday Times.
Does dim angen cyflwyno'r cyflwynwraig yma i wilwyr Uned5!! Cyflwynodd Llinos y sioe gyda Mari a Rhydian on roedd yn rhan o'r tîm pan oedd Gethin Jones yma hefyd. Mae Llinos hefyd yn cyd-gyflwyno'r sioe Golffio ar S4C gyda Jonathan Davies.
O'r Doc i stiwdio Uned5! Mae Tudur yn adnabyddus fel comediwr yng Nghymru a ddaeth i boblogrwydd yn sydyn iawn gyda'i gymeriad gwallgo - PC Leslie Wynne. Pan nad yw Tudur yn gwisgo'r tan ffug mae'n cyflwyno sioe sgwrsio ei hun - Tudur Owen o'r Doc.
Mae’n wastad yn bleser cael yr aml-dalentog Tara Bethan fel westai yn Uned5. Er na ddim hi oedd dewis Andrew Lloyd Webber ar gyfer Nancy yn ‘I’ll Do Anything’, hi di’n dewis ni bob tro! Oeddech chi’n gwybod fod Tara’n arfer bod yn rhan o grwp pop ar S4C o’r enw cic?
Fuodd Rhodri yn gyflwynydd Uned5 am flynyddoedd yn ol yng nghychwyn oes y sioe. Mae bellach yn cyflwyno nifer o raglenni yn cynnwys 'X-Ray' i'r BBC. Priododd Rhodri gohebydd newyddion ITV Lucy Owen yn 2004 a bellach mae ganddynt blentyn o'r Gabriel.
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010
30 Mai, 2010